Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 16 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 10:15 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_16_10_2012&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Alun Ffred Jones Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Marc Wyn Jones (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion
2.2
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn am ei farn am y ddeiseb hon; ac
Ysgrifennu at yr awdurdod lleol a Heddlu Dyfed Powys ynghylch diogelwch ar ffordd yr A487.
2.3P-04-427: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg
2.4
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Busnes, Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.5P-04-428: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am eu barn am y ddeiseb; a
Gwneud darn o waith ar y ddeiseb, sy’n cynnwys casglu tystiolaeth gan awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno goleuadau stryd sy’n defnyddio ynni amgen.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau
3.2
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ofyn am ragor o fanylion gan y Gweinidog am y wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymarfer i ail-werthuso gradd yr adeilad ac am gynnydd y gweithdai y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal ar y Bil Diogelu Treftadaeth sydd ar ddod.
3.3P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, oherwydd:
Bod y mater ehangach wedi cael ei ystyried yn adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012; ac
Nad oedd y deisebydd wedi ymateb i’r cais am ragor o sylwadau ar y mater.
3.4P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon a chytunodd y byddai’n dychwelyd i’r mater pan fyddai rhagor o wybodaeth ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am gasgliadau’r adroddiad a’r argymhellion a wnaed ar gyfer y camau nesaf ym mhroses benderfynu s101a.
3.5P-04-326 Na i losgyddion
3.6
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon a chytunodd i’w chau, oherwydd:
Bod y mater ehangach wedi’i drafod yn Adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012; ac
Y byddai’r Pwyllgor Deisebau yn cyhoeddi adroddiad cyn hir ar ddeiseb P-04-341 ynghylch gwastraff a llosgi.
Cytunodd y Pwyllgor y dylid hysbysu’r deisebwyr ar ôl i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi.
3.7P-03-309 Caerdydd yn erbyn y llosgydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, oherwydd:
Bod y Gweinidog, mewn gohebiaeth i’r Pwyllgor, wedi mynd i’r afael â’r mater ynghylch a ddilynwyd y broses gynllunio’n gywir; ac
Y byddai’r Pwyllgor Deisebau yn cyhoeddi adroddiad yn fuan ar ddeiseb P-04-341 ynghylch gwastraff a llosgi.
Cytunodd y Pwyllgor y dylid hysbysu’r deisebwyr ar ôl i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi.
3.8P-04-351 Adalw cynlluniau datblygu lleol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, oherwydd bod y Gweinidog wedi mynd i’r afael â’r mater ynghylch a ellid adalw cynlluniau datblygu lleol ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.
3.9P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru
3.10
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon. Cytunodd y Pwyllgor i wneud rhagor o waith ar y mater, a fyddai’n cynnwys:
Ysgrifennu at Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu i ofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb; a
Gwneud cais am bapur briffio cyfreithiol ar y materion sy’n ymwneud â sefydlu cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid.
3.11 P-04-396 Sgiliau cynnal bywyd brys i blant ysgol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ofyn a fyddai’n ystyried gwneud rhagor o waith ar y materion a godwyd yn y ddeiseb hon; ac
Ysgrifennu at y Comisiynydd Plant ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
3.12 P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, oherwydd ei fod yn teimlo ei fod wedi mynd â’r mater yn ei flaen cyn belled ag y gallai a’i fod wedi cysylltu â’r deisebydd i ofyn am ragor o awgrymiadau, ond nid oedd wedi cael ateb.
3.13 P-04-400 Safon ansawdd NICE ym maes iechyd meddwl
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i amlygu’r pryderon a fynegwyd yn y wybodaeth ategol bellach a gafwyd gan y deisebwyr.
3.14 P-04-373 Parthau gwaharddedig o amgylch ysgolion ar gyfer faniau symudol sy'n gwerthu bwyd poeth
3.15
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor pan gyflwynir polisïau sy'n gysylltiedig â'r ddeiseb hon.
3.16 P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru
3.17
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd:
I ysgrifennu at Benaethiaid Safonau Masnach yng Nghymru i ofyn iddynt a ydynt yn ymwybodol o unrhyw broblemau o’r fath yn eu hardal, ac i gynghori eu haelodau i fod yn ystyriol o’r mater hwn ac i fod yn ymwybodol ohono yn eu hetholaeth; ac
I ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’w hysbysu ynghylch y mater hwn.
3.18 P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i:
Ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn am ragor o fanylion am y Cynllun Partneriaeth Bysys o Ansawdd, sy’n gynllun statudol, ac a fydd hwn yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y deisebwr; a
Rhannu’r adborth gan y deisebwyr ar y cynllun Bwcabus gyda’r Gweinidog.
3.19 P-04-402 Gweddïau cynghorau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru a Pharciau Cenedlaethol Cymru i ofyn am eu barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb hon.
Trawsgrifiad